Gwrthdroad tymheredd
Gwrthdroad tymheredd yn Ardal y Llynnoedd | |
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr atmosfferig |
---|---|
Math | graddiant tymheredd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn meteoroleg, gwrthdroad tymheredd yw gwyriad oddi wrth newid cyffredin tymheredd gydag uchder. Fel arfer mae'r gyfradd newid adiabatig yn golygu bod tymheredd yr aer yn lleihau gydag uchder yn y troposffêr. Gyda gwrthdroad tymheredd, aer cynnes sy'n digwydd uwchben aer oer.
Mae gwrthdroad tymheredd yn cadw llygredd aer, fel mwrllwch, yn agos at y ddaear. Gall gwrthdroad hefyd llesteirio darfudiad, gan gwethio fel "caead". Os ydy'r caead yma yn torri i lawr, gall darfudiad unrhyw leithder sy'n bresennol yn yr aer achosi stormydd mellt a tharanau eithriadol. Yn hinsoddau oer, gall gwrthdroad tymheredd achosi glaw rhewllyd.
Yng Nghymru, y prif reswm dros ffurfio gwrthdroad tymheredd yw gwasgedd uchel. Mae hyn yn lleihau cryfder gwyntoedd a allai troi haenau aer a dinistrio'r gwrthdroad. Mae'r absenoldeb a gymylau yn golygu bod tymhereddau yn gostwng yn sydyn gyda'r nos, yn arbennig yn uchel yn y mynyddoedd. Mae'r aer oer yma yn drwm ac yn suddo lawr ochrau'r mynyddoedd ac wrth wneud hyn, mae'n sychu a chynhesu. Mae'r haen gynnes o aer yn gallu gweithredu fel "caead" a chadw aer oerach lawr gwaelod y dyffryn. Yn y ffordd yma mae'r gwrthdroad yn ffurfio.
Gwrthdroadau yw mwyaf cyffredin yn y gaeaf pan fo niwl yn cael ei ddal yn yr aer oer islaw, ond maen nhw'n gallu digwydd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.
-
Mwg yn codi yn Lochcarron, yr Alban, yn cael ei nadu gan haen uwch o aer cynnes
-
Mwrllwch wedi'i ddal gan wrthdroad tymheredd yn ninas Almaty, Casachstan
-
Fan y Bîg uwchben gwrthdroad tymheredd